图书 > Llyfrau Darllen y Testament Newydd Groeg > Efengyl Ioan: Llyfr Darllen Groeg

Efengyl Ioan: Llyfr Darllen Groeg

翻译: Gwilym Tudur

图书 5 in Llyfrau Darllen y Testament Newydd Groeg

购买于 Amazon

Dyma lyfr darllen Groeg ar gyfer efengyl Ioan. Efengyl Ioan yw un o’r ffynonellau hawsaf i’w darllen yn y Testament Newydd gan ei bod yn ailadrodd nifer o’r un geiriau gan gadw at gystrawen anghymhleth. Mae symlrwydd y geiriau a’r gystrawen ynghyd â’r hanesion cyfarwydd yn golygu bod Ioan yn aml yn destun gosod ar gyfer myfyrwyr sy’n dechrau darllen Groeg. Mae'r gyfrol hon wedi'i chynllunio fel adnodd defnyddiol a rhad ar gyfer dau grŵp o bobl. Yn gyntaf, bwriad y llyfr yw cynorthwyo myfyrwyr sydd wedi astudio blwyddyn o Roeg Coine (Groeg y Testament Newydd) er mwyn iddynt fagu hyder wrth ddarllen y testunau Groeg gwreiddiol. Yn ail, mae'r llyfr wedi'i gynllunio ar gyfer gweinidogion, ysgolheigion ac unrhyw ddarllenwyr lleyg sy'n dymuno dyfalbarhau i ddysgu Groeg a'i defnyddio wrth astudio, pregethu a dysgu'r Beibl.

Mae’r llyfr hwn yn trwytho'r darllenydd yn y testunau Beiblaidd ac o ganlyniad gall fagu hyder yn gyflym wrth ddarllen Groeg. Er mwyn cyflawni hyn, mae pob gair anghyffredin sy'n ymddangos 30 o weithiau neu lai yn y Testament Newydd Groeg yn cael ei egluro mewn troednodyn. Mae hyn yn galluogi'r darllenydd i ddyfalbarhau i ddarllen pob darn o'r testun yn ddirwystr. Mae'r llyfr hwn felly'n mynd law yn llaw â'r cyfrolau gramadeg traddodiadol ac yn arbennig o ddelfrydol ar gyfer dechreuwyr a myfyrwyr canolradd sy'n dysgu darllen Groeg. Fodd bynnag, bydd hyd yn oed darllenwyr mwy profiadol yn gwerthfawrogi cael esboniad o'r geiriau prin gan fod hyn yn arbed amser wrth ddarllen y testun. Hefyd, yn wahanol i lyfrau darllen eraill, mae’r gyfrol hon yn hylaw ac yn ysgafn ac felly'n hawdd i’w chario o gwmpas a'i darllen.

Mae'r gyfrol hefyd yn cynnwys:

  • Mapiau Beiblaidd yn yr iaith Roeg
  • Tablau gramadegol o enwau a berfau
  • Rhestr eirfa o'r holl eiriau nad ydynt wedi'u hegluro o dan y testun
  • Ymylon eang i'r dudalen er mwyn gwneud nodiadau

Y testun sylfaenol yw Testament Newydd Groeg y Gymdeithas Llenyddiaeth Feiblaidd (SBLGNT) sy'n argraffiad modern delfrydol ar gyfer darllenwyr.

抱歉,您的设备无法显示PDF文件。请尝试在其他设备上查看

Download


产品详情

出版社 : Timothy A. Lee Publishing (21 Jan. 2025)

语言 : 古希腊语, 威尔士语

包含 : 约翰福音

平装 : 138 页面

尺寸 : 15.24 x 0.88 x 22.86 cm

纸张 : 奶油色

ISBN : 978-1-83651-091-8


本系列其他可用书籍